English

Hyfforddiant Diogelu

Mae’r e-dysgu diogelu hwn wedi greu gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae’r modiwl wedi’i anelu at y rhai sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Bydd cwblhau’r modiwl hyfforddiant newydd yn galluogi pawb i wneud y canlynol:

  • Esbonio’r term ‘diogelu’
  • Cydnabod camdriniaeth neu’r risg o gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
  • Gwybod pa gamau i’w cymryd os ydyn nhw’n dyst neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n cael eu cam-drin
  • Dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r deddfau sy’n ymwneud â diogelu
  • Cydnabod bod dyletswydd arnyn nhw i riportio camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.


    Mae WITS yn croesawu ceisiadau cofrestru newydd gan gyfieithwyr unrhyw iaith ac yn gallu eich helpu drwy’r broses gofrestru a’r safonau fetio gofynnol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.

    Top

    © Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2023

    Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd Hygyrchedd