Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar weithio gyda dehonglwyr a chyfieithwyr mewn lleoliadau iechyd y GIG a lleoliadau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol.
Bydd yr e-ddysgu yn:
- Adnabod yr angen am ddehonglwyr a chyfieithwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- Archwilio rôl dehonglwyr a chyfieithwyr yn y lleoliadau hyn
- Darparu arweiniad ymarferol ar sut i weithio’n effeithiol gyda dehonglwyr a chyfieithwyr
- Eich tywys trwy’r broses archebu WITS
Bydd y modiwl hwn yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau.