Pwy yw Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS)?
Agorodd Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (WITS) yn 2009 yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. I ddechrau, roedd WITS yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Heddlu Gwent, Cyngor Sir Caerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ond erbyn hyn ni yw prif gyflenwr gweithwyr proffesiynol ieithoedd i dros 30 o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.
Mae WITS yn cyrchu cyfieithwyr proffesiynol i’r sector cyhoeddus ledled Cymru mewn dros 150 o ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.
Mae WITS yn sefydliad dielw sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r sector cyhoeddus i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg / Saesneg fel eu hiaith cyntaf i gael gafael ar wasanaethau. Mae WITS wedi tyfu i drin tua 40,000 o geisiadau bob blwyddyn ar gyfer cymorth dehongli a chyfieithu gan weithio gyda dros 700 o gyfieithwyr hunan-gyflogedig cofrestredig drwy Gymru a’r DU.
Ers dros 10 mlynedd mae WITS wedi darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n cael eu gyrru’n foesegol i’w holl gwsmeriaid, ac mae’n parhau i weithio’n agos gyda chleientiaid i ddatblygu’r gwasanaeth.
Mae WITS yn darparu ystod lawn o gymorth iaith:
- Wyneb yn Wyneb
- O bell (Ffôn neu fideo)
- Ar alw (Ffôn neu Fideo)
- Recordio Fideo (BSL)
- Cyfieithu dogfennau / Prawfddarllen
- Cyfieithiad braille